Mae Dr Ceryl Teleri Davies, Uwch Gymrawd Ymchwil yn y Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau ym Mhrifysgol Bangor, wedi derbyn Cymrodoriaeth Winston Churchill i astudio dulliau o ddarparu gofal tosturiol i ferched sydd wedi dioddef trais a cham-drin rhywiol yn Sweden a Chanada.
Yn dilyn proses ymgeisio gystadleuol iawn a oedd yn cynnwys bron i 1,900 o ymgeiswyr, cafodd Dr Ceryl Davies ei henwi'n un o blith 109 o Gymrodyr Churchill newydd gan Gymrodoriaeth Winston Churchill. Mae'r cymrodyr yn cynnwys amrywiaeth eang o broffesiynau, cefndiroedd a chymunedau ledled y Deyrnas Unedig, sydd wedi ymrwymo, bob un, i greu newid cadarnhaol trwy ddysgu rhyngwladol.
Trwy鈥檙 gymrodoriaeth, bydd Dr Ceryl Davies yn astudio sut mae gwledydd fel Sweden a Chanada wedi ymgorffori dulliau gofal tosturiol o fewn rhaglenni sgrinio serfigol, gan gynnwys llwybrau gofal hyblyg a chynllunio gwasanaethau sy鈥檔 canolbwyntio ar fynediad.
Bydd y project yn astudio sut y gallai'r dulliau rhyngwladol hyn fod yn sail i welliannau i fodel gofal tosturiol ar draws gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn y Deyrnas Unedig, yn enwedig i ferched sy'n wynebu rhwystrau i gael mynediad at gymorth oherwydd eu profiadau o drais a cham-drin rhywiol.
Bydd y gymrodoriaeth yn cynnwys cydweithio ag arweinwyr rhyngwladol cydnabyddedig ym maes gofal tosturiol a gofal ystyriol o drawma. Yn Sweden, bydd Dr Ceryl Davies yn gweithio gyda'r National Centre for Knowledge on Men鈥檚 Violence Against Women (NCK) ym Mhrifysgol Uppsala, sy鈥檔 cynnwys yr Athro Carolina 脰verlien a Dr Johanna Belachew, y mae eu gwaith yn canolbwyntio ar drais, trawma a mynediad merched at gefnogaeth a gwasanaethau gofal iechyd. Bydd hyn yn cynnig dealltwriaeth o sut mae Sweden wedi ymgorffori dulliau tosturiol sy'n canolbwyntio ar fynediad mewn systemau iechyd cyhoeddus a sgrinio ehangach. Yng Nghanada, bydd hi'n cydweithio 芒'r Athro Shane Sinclair ym Mhrifysgol Calgary, y mae ei waith ar wyddoniaeth tosturi a Model Tosturi Sinclair wedi helpu diffinio sut caiff tosturi ei ddeall a'i fesur ym maes gofal iechyd. Bydd y gymrodoriaeth hefyd yn gwerthuso effaith 鈥楬andbook on Sensitive Practice for Health Care Practitioners鈥 Canada, gan weithio gydag awduron y llawlyfr a Linn Haag ym Mhrifysgol Wilfrid Laurier i ddeall sut caiff dulliau gofal sensitif a thosturiol eu cymhwyso mewn ymarfer. Gyda'i gilydd, bydd y cydweithrediadau hyn yn cynnig cyfle unigryw i astudio sut y gellir rhoi egwyddorion gofal tosturiol ar waith mewn systemau sgrinio serfigol a'u haddasu i gryfhau gofal iechyd a chymdeithasol sy'n canolbwyntio ar iechyd ataliol yn y Deyrnas Unedig.
Meddai Dr Ceryl Davies: 鈥淩wy鈥檔 falch dros ben fy mod wedi cael Cymrodoriaeth Churchill. Mae'r gymrodoriaeth hon yn gyfle anhygoel i ddysgu gan arweinwyr a chymunedau rhyngwladol sy'n datblygu dulliau mwy tosturiol a hygyrch o ddarparu sgrinio serfigol.
Rwy'n gobeithio y bydd y dysgu'n helpu cryfhau dulliau sy'n canolbwyntio ar iechyd ataliol yn y Deyrnas Unedig ac yn cefnogi gwasanaethau i fod yn fwy diogel a hygyrch i ferched sy'n cael trafferth efo鈥檙 drefn sgrinio ar hyn o bryd. Yn y pen draw, mae hyn yn ymwneud 芒 lleihau niwed y gellir ei osgoi a sicrhau bod gofal iechyd ataliol yn gweithio i bob merch.鈥
Ynghyd 芒 Dr Ceryl Davies, bydd cymrodyr eleni yn astudio amrywiaeth eang o faterion cymdeithasol, iechyd, amgylcheddol a chymunedol pwysfawr ledled y byd. Mae Cymrodoriaeth Churchill yn ariannu dinasyddion y Deyrnas Unedig i dreulio pedair i wyth wythnos yn adeiladu rhwydweithiau rhyngwladol, yn cyfnewid gwybodaeth ac yn dod 芒 dysgu ymarferol yn 么l er budd cymunedau a gwasanaethau ledled y Deyrnas Unedig.
Meddai Julia Weston, Prif Weithredwr Cymrodoriaeth Churchill:
鈥淵n y byd sydd ohoni, lle mae edrych tuag allan yn bwysicach nag erioed o鈥檙 blaen, mae rhywbeth gwirioneddol obeithiol am bobl sy'n dewis chwilio am syniadau newydd, meithrin cysylltiadau ar draws ffiniau a defnyddio'r wybodaeth honno i greu newid cadarnhaol.
Rwy'n falch iawn o groesawu cymrodyr 2026. Mae pob un ohonyn nhw鈥檔 dangos grym chwilfrydedd, meddwl agored a pharodrwydd i ddysgu gan eraill. Rydym i gyd yn edrych ymlaen at ddilyn eu teithiau a gweld y gwahaniaeth maen nhw'n ei wneud ledled y Deyrnas Unedig.鈥
Mae Cymrodyr Churchill 2026 yn ymuno 芒 chymuned gyda dros 4,000 o bobl sy'n gwneud newid ac sy'n gweithio ar rai o faterion pwysicaf heddiw, o iechyd a gofal cymdeithasol i hinsawdd, addysg, cyfiawnder a datblygu cymunedol.
Bydd ceisiadau i rownd nesaf Cymrodoriaethau Churchill ar agor rhwng 1 Medi a 20 Hydref 2026.