天美传媒

Fy ngwlad:
Llun o ddwylo yn gafael mewn planhigyn bychan

#BangorCynaliadwy

Ym Mhrifysgol Bangor, rydym ni wedi ymrwymo i wneud cynaliadwyedd yn ganolog i bopeth a wnawn. Drwy ein haddysgu, ein hymchwil, a鈥檔 hymgysylltiad 芒'r gymuned leol, mae ein staff a'n myfyrwyr yn helpu i ysgogi newid ystyrlon a chreu dyfodol mwy cynaliadwy.

10fed

yn y DU

yn Sg贸r Effaith Cynaliadwyedd y Times Higher Education a aseswyd yn erbyn Nodau Datblygu Cynaliadwy鈥檙 Cenhedloedd Unedig, 2026

=74ain

yn y byd

yn Sg贸r Effaith Cynaliadwyedd y Times Higher Education a aseswyd yn erbyn Nodau Datblygu Cynaliadwy鈥檙 Cenhedloedd Unedig, 2026

25ain

yn y DU

Cynghrair Prifysgol People & Planet, 2025/26

12fed

yn y byd : Bywyd ar y Tir

Cynghrair Effaith Cynaliadwyedd Addysg Uwch y Times, 2026

Datblygiad sy'n diwallu anghenion y presennol heb beryglu gallu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion eu hunain.

Y Cenhedloedd Unedig ar Gynaliadwyedd
Llun yn dangos caeau, coed a mynyddoedd dros Afon Menai

Prifysgol Bangor: Grym er Daioni

鈥淐redwn fod gan Brifysgol Bangor ran allweddol yn creu byd mwy cynaliadwy. Ein huchelgais yw ysbrydoli a chefnogi ein staff a'n myfyrwyr i greu effeithiau cadarnhaol parhaol ar bobl a'r blaned. 

鈥淩ydym yn brifysgol ddwyieithog falch sydd wedi ymwreiddio yn nhreftadaeth Cymru. Yn hyn o beth mae'n allweddol ein bod yn cefnogi ein cymuned leol - gan ddiogelu'r amgylchedd a hyrwyddo bwrlwm economaidd, cymdeithasol, dwyieithog a diwylliannol.   

鈥淢ae Prifysgol Bangor wedi ymrwymo i dwf cynaliadwy, ac i gynnal gwaith ymchwil sy'n mynd i'r afael 芒 heriau byd-eang fel newid hinsawdd, anghydraddoldebau iechyd, a datblygu'r gweithlu.鈥

Yr Athro Edmund Burke

Rydym yn angerddol am hyrwyddo diwylliant ac ysgolheictod o stiwardiaeth amgylcheddol, gan fyw mewn cytgord, a gofalu am y byd mewn ffyrdd sy'n diwallu ein hanghenion economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol. Byddwn, gyda鈥檔 hymchwil blaenllaw yn sylfaen i ni, yn cefnogi datblygiad Cymru fel gwlad ddwyieithog sy鈥檔 dysgu, lle ceir economi a sbardunir gan wybodaeth er budd y byd a chenedlaethau'r dyfodol.

Strategaeth 2030

Tair colofn strategol strategaeth gynaliadwy Prifysgol Bangor.

Rhagoriaeth Ymchwil

Mae cynaliadwyedd eisoes yn sbarduno ein hymchwil ym Mhrifysgol Bangor. Byddwn yn edrych ar fynd i'r afael 芒 heriau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd trwy waith rhyngddisgyblaethol. Ein targed yw ymchwilio a datblygu atebion sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol a pharhaol, a helpu i lunio arferion a pholis茂au cynaliadwy.

Addysg Drawsffurfiol

Ein nod yw darparu cyfleoedd dysgu, projectau sy'n canolbwyntio ar gynaliadwyedd, a gweithgareddau allgyrsiol sy'n annog myfyrwyr i fabwysiadu arferion cynaliadwy yn eu bywydau academaidd, cymdeithasol a phersonol. Fel hyn, byddant yn graddio yn stiwardiaid gwybodus a rhagweithiol o gynaliadwyedd cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.

Amgylchedd dwyieithog lle mae鈥檙 Gymraeg yn ffynnu

Rydym yn hyrwyddo'r iaith a'r diwylliant Cymraeg ar draws ein Prifysgol, gyda'r nod o greu amgylchedd dwyieithog sy'n cefnogi staff yn y gweithle, yn ennyn diddordeb myfyrwyr yn eu dysgu ac yn cryfhau ein cymuned leol. Drwy feithrin trawsnewidiad ieithyddol, cymdeithasol, economaidd a diwylliannol, ein nod yw sicrhau bod pawb sy'n gysylltiedig 芒 Phrifysgol Bangor yn cyfrannu at Gymru fywiog, gynhwysol a chynaliadwy.

[0:00] Prifysgol Bangor,                            

[0:03] yn bwerdy ymchwil                              

[0:06] sy'n ysgogi newid.                                 

[0:08] Mae ein darganfyddiadau yn llunio'r byd heddiw gyda ffocws ar

[0:11] gynaliadwyedd,                                   

[0:13] diogelu'r amgylchedd,                      

[0:17] adfywio iechyd cymdeithas ar 么l y pandemig,   

[0:19] a hyrwyddo bywiogrwydd economaidd, cymdeithasol, dwyieithog a diwylliannol.

[ 0:28] O wella iechyd a lles,                             

[0:32] i ddatblygu'er economi 5G byd-eang.       

[0:34] a chanfod atebion ynni i'r dyfodol.         

[0:37] Gweithio mewn partneriaeth 芒 llunwyr polisi, diwydiant, busnesau a chymunedau

[0:42] datblygu Ysgol Feddygol Gogledd Cymru         

[0:45] i hyfforddi meddygon yfory         

[ 0:48] Cefnogi'r sector Gwyddorau Bywyd     

[0:52] ac ymchwil perfformiad dynol mewn Gwyddorau Chwaraeon

[0:55] Mae ymchwil Covid-19 Bangor yn llywio penderfyniadau polisi Iechyd Cyhoeddus.

[0:59] yn sefydlu rhwydwaith epidemioleg dwr gwastraff cyntaf y DU i olrhain cyfraddau heintiau.

[ 1:02] a pharatoi ar gyfer pandemig yn y dyfodol.         

[1:09] Mae Bangor yn datblygu technolegau a gwytnwch ym maes ynni niwclear a meddygaeth,

[1:13] trwy ein Sefydliad Dyfodol Niwclear blaenllaw.   

[ 1:18] Mynd i'r afael 芒 newid Hinsawdd         

[1:19] gydag ymchwil i ynni carbon isel.       

[1:22] Ymdrin ag un o faterion amylcheddol mwyaf y blaned       

[ 1:25] gwastraff plastig a gorddefnyddio plastigau untro      

[1:29] a gwarchod yr amrywiaeth o rywogaethau ac ecosystemau       

[1:32] trwy ymchwil cadwraeth bioamrywiaeth.       

[1:37] Mae ein hymchwil ar Gymru, y Gymraeg a sgiliau ieithyddol        

[1:40] yn ysbrydoli cenedl ddwyieithog fywiog.    

[1:45] Mae ein darganfyddiadau yn llywio addysgu       

[ 1:49] gan alluogi myfyrwyr i ddysgu am ymchwil mewn amser real

[ 1:53] Mae ein hymchwilwyr yn rhannu ethos sy'n croesawu      

[1:55] dewrder        

[1:56] uniondeb        

[1:57] cydweithio        

[ 1:58] hyder      

[ 1:59] ac ymddiriedaeth     

[2:01] gydag agwedd fyd-eang        

[2:03] sy'n ein helpu i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl.      

[2:06] Ymchwil       

[2:07] wrth wraidd ein gwaith       

[2:08] Ers 1884       

Mwy na'r amgylchedd

Mae bod yn brifysgol wirioneddol gynaliadwy yn golygu nid yn unig gofalu am ein hadnoddau naturiol a鈥檙 amgylchedd 鈥 ond hefyd ein cymunedau, ein diwylliant a鈥檔 hadnoddau economaidd. Mae gennym ni hanes hir o gydweithio 芒'n cymuned i godi dyheadau, gwella ansawdd bywyd, a mynd i'r afael 芒 rhai o heriau mwyaf cymdeithas, gan gynnwys iechyd, newid hinsawdd, y Gymraeg, tai, tlodi, a phoblogaeth sy'n heneiddio. Drwy rannu gwybodaeth drwy ymgysylltu cymdeithasol a chyhoeddus, a meithrin partneriaethau cryf, rydym yn cyfrannu at lesiant ein rhanbarth.

Mae cynaliadwyedd yn fwy na鈥檙 amgylchedd, ac mae鈥檔 fwy na gwaith un adran - mae ym mhopeth a wnawn. Gan weithio gyda Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) Llywodraeth Cymru 2015, a Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig, ymrwymwn i unioni鈥檙 heriau y mae鈥檙 gymuned fyd-eang yn eu hwynebu.

Yr Athro Christian Dunn,  Dirprwy Is-ganghellor Cynorthwyol dros Gynaliadwyedd
image of Dr Christian Dunn (white man, with dark hair and facial hair)

Sustainability at Bangor

O鈥檔 modiwlau israddedig i鈥檔 prosiect ymchwil, mae popeth a wnawn yn cael ei fapio ar 17 Nod Cynaliadwyedd y Cenhedloedd Unedig a defnyddio egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau鈥檙 Dyfodol (Cymru) 2015 Llywodraeth Cymru.

Deddf Llesiant Cenedlaethau鈥檙 Dyfodol (Cymru) 2015 Llywodraeth Cymru

Nod Cynaliadwyedd y Cenhedloedd Unedig

Cefndir pinc yn dangos testun gwyn yn dweud 25 wrth 25

Rhywfaint o鈥檔 heffaith hyd yma 25 erbyn 25

Fe wnaethon ni osod targed uchelgeisiol i leihau ein hallyriadau carbon deuocsid wrth 25% mewn dim ond tair blynedd. I gyflawni hyn, bu inni ganolbwyntio ar leihau gwastraff, cwtogi鈥檙 defnydd o drydan, ac annog cymudo mwy cynaliadwy i staff. Rydym yn falch o gyhoeddi y bu鈥檔 hymgyrch yn llwyddiant, gan nodi cam pwysig ymlaen i wneud Prifysgol Bangor yn fwy cynaliadwy.

Delwedd o dudalen lanio Ecosia yw hon. Yn dangos cefndir gwyrdd, testun gwyn yn dweud Ecosia, bar chwilio a gwybodaeth am nifer y coed a blannwyd a chronfeydd ar gyfer gweithredu ar yr hinsawdd.

Rhywfaint o鈥檔 heffaith hyd yma Ecosia

Yn dilyn awgrym myfyriwr, fel rhan o'n hymgyrch 25erbyn25, mae Prifysgol Bangor wedi gwneud Ecosia yn beiriant chwilio diofyn. Mae Ecosia yn rhoi 100% o'i elw i weithredu dros yr hinsawdd, yn enwedig drwy brojectau ailgoedwigo ledled y byd. Mae pob chwiliad yn helpu i adfer mannau pwysig o fioamrywiaeth ac yn mynd i'r afael 芒 datgoedwigo, gan ganiat谩u i gymuned ein Prifysgol gyfrannu'n uniongyrchol at blaned fwy gwyrdd a chynaliadwy.

Olwyn lliwgar yn dangos eiconau delwedd 17 nod datblygu cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig

Rhywfaint o鈥檔 heffaith hyd yma Bathodyn Modiwl

Mae myfyrwyr yn elwa o brofiadau dysgu sy'n adlewyrchu ein hymrwymiad i gynaliadwyedd, gyda modiwlau rhaglen wedi'u tagio 芒 17 Nod Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig. Mae Nodau Datblygu Cynaliadwy perthnasol wedi'u hamlygu mewn deunyddiau addysgu, ac mae bathodynnau Nodau Datblygu Cynaliadwy dwyieithog y Cenhedloedd Unedig y Brifysgol yn helpu i atgyfnerthu dysgu ac ymwybyddiaeth.

Mae'r ddelwedd yn dangos myfyrwyr yn gwneud gwaith ymarferol mewn labordy

Ychydig o'n heffaith hyd yma Rhestr Clarivate o Ymchwilwyr Blaenllaw 2025

Mae pump o ymchwilwyr blaenllaw Prifysgol Bangor wedi eu henwi ymhlith y rhai a ddyfynnir amlaf yn y byd, gan eu rhoi yn yr 1% uchaf yn fyd-eang. Mae pob un wedi dangos dylanwad sylweddol yn eu maes, gydag ymchwil yn cwmpasu iechyd pobl, rheoli ecosystemau, gwneud penderfyniadau ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, effeithiau newid hinsawdd, a buddsoddi mewn iechyd a lles.

Pobl yn sefyll wrth wal llawn o syniadau wedi eu hysgrifennu ar ddarnau papur

Beth ydyn ni'n gweithio arno

Rydym yn gweithio ar lawer o eitemau i wella ein perfformiad amgylcheddol a moesegol, mewn meysydd fel addysg ar gyfer datblygu cynaliadwy, ymgysylltu 芒 staff a myfyrwyr, a chyllid a chaffael

Llun agos o ddyn yn arwyddo dogfen gyda beiro
Person signing document

Polis茂au, Strategaethau ac Adroddiadau

Mae ein polis茂au a'n strategaethau yn siapio dyfodol y Brifysgol yn ogystal 芒 chanolbwyntio ar faterion sy'n wynebu staff a myfyrwyr presennol. Ac mae ein Hadroddiadau yn tystio i'n hymdrechion hyd yn hyn.

People holding hands

Cwrdd 芒鈥檙 T卯m

Mae pawb sy'n ymwneud 芒 Chynaliadwyedd ym Mangor yn rhannu gweledigaeth gyffredin a set o werthoedd, gan ddod ag ystod amrywiol o arbenigedd a phrofiad.

Fel t卯m, credwn fod y cyfan yn fwy na swm ei rannau. Fodd bynnag, os hoffech ddysgu mwy am yr unigolion sy'n cyfrannu at ein gwaith, gallwch archwilio rhestr y timau isod.

Cysylltwch

 Os oes gennych unrhyw gwestiynau am gynaliadwyedd ym Mhrifysgol Bangor e-bostiwch sustainability@bangor.ac.uk

#BangorGynaliadwy

 Dilynwch a defnyddiwch yr hashnod #BangorGynaliadwy ar gyfer popeth cynaliadwy ym Mhrifysgol Bangor ar gyfryngau cymdeithasol.