Storiel yn Dathlu Degawd o Gelf a Chymuned
Mae Storiel, amgueddfa ac oriel gelf Gwynedd ym Mangor, yn dathlu carreg filltir arbennig eleni wrth nodi 10 mlynedd ers agor ei drysau i鈥檙 cyhoedd.
Agorwyd Storiel ar 30 Ionawr, 2016 ar 么l prosiect trawsnewid gwerth 拢2.6 miliwn a roddodd fywyd newydd i Balas yr Esgob fel cartref i orielau amgueddfaol, celf gyfoes, siop, caffi a gofod cymunedol.
Dros y degawd diwethaf mae Storiel wedi croesawu degau o ysgolion, grwpiau cymunedol a dros 370,000 o ymwelwyr. O agoriadau gwaith celf i berfformiadau byw a gweithdai creadigol, mae鈥檙 lleoliad wedi dod yn ganolbwynt bywiog i gelf a diwylliant yng Ngwynedd.
Er mwyn nodi a dathlu鈥檙 penblwydd arbennig mae diwrnod llawn gweithgareddau wedi ei drefnu ar ddydd Sadwrn, 4 Gorffennaf 2026.
Mae鈥檙 gweithgareddau yn cynnwys:
- Teithiau tywys o鈥檙 casgliadau
- Gweithdy Ffosil Llechi gyda Hannah Coates-Shea
- Agoriad swyddogol arddangosfa LLORIOG // GWALLUS a sgwrs gyda鈥檙 artist Erin Hughes
- Agoriad swyddogol arddangosfa Toria Cameron a chyflwyniad i鈥檙 gwaith gan Helen Rees Leahy
- Gweithdy 'Zines' gyda Elin Angharad
- Sgiliau p锚l droed a gemau gyda Byw鈥檔 Iach
- Gweithgareddau hwyliog gyda Gisda
Fel rhan o鈥檙 gwaith paratoi ar gyfer y dathlu mae Storiel yn gwahodd pobl leol i rannu eu hatgofion a鈥檜 profiadau o ymweld drwy anfon clip fideo byr (portread) er mwyn eu dangos yn y digwyddiad a鈥檜 rhannu dros y misoedd nesaf: storiel@gwynedd.llyw.cymru
Dywedodd y Cynghorydd Medwyn Hughes, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Economi a Chymuned, 鈥淩ydym yn falch iawn o Storiel 鈥 mae鈥檔 leoliad pwysig i drigolion Bangor a鈥檙 sir i gyd sydd yn dathlu hanes a diwylliant Gwynedd. Mae鈥檔 lwyfan pwysig i artistiaid a gwneuthurwyr o Gymru ac i bobl o bob oed gymryd rhan mewn gweithgareddau sy鈥檔 meithrin eu creadigrwydd.
鈥淢ae鈥檙 bartneriaeth gryf sydd rhwng Cyngor Gwynedd a Phrifysgol Bangor wedi galluogi Storiel i barhau i ddatblygu a darganfod ffyrdd newydd o ddod 芒 phobl ynghyd i fwynhau straeon a chelf ar eu stepan drws.鈥
Ychwanegodd Gwenan Hine, Ysgrifennydd y Brifysgol, Prifysgol Bangor, 鈥淩ydym yn falch ofnadwy o'n partneriaeth sydd wedi bodoli ers dros ddegawd bellach efo Cyngor Gwynedd i ddiogelu casgliadau Storiel a Phrifysgol Bangor. Mae'r cydweithio yn sicrhau gofal casgliadau o'r ansawdd orau yn ogystal 芒 mynediad atynt i'n cymunedau a'n myfyrwyr.鈥
Mae staff a Chyfeillion Storiel yn edrych mlaen i groesawu ymwelwyr i Storiel rhwng 10am a 4pm ar 4 Gorffennaf, 2026.
Mae鈥檙 holl weithgareddau am ddim, ond mae angen archebu lle ar gyfer y gweithdai o flaen llaw drwy wefan Storiel: Penblwydd #STORIEL10 - Storiel (Cymru)
Yn ogystal 芒 dathliadau fis Gorffennaf, mae arddangosfeydd a gweithdai di-ri wedi eu trefnu trwy gydol 2026 - ewch i鈥檙 gwefan i ddarganfod mwy: